Avenue Q (sioe gerdd)

Avenue Q
200
Logo Avenue Q
Cerddoriaeth Robert Lopez
Jeff Marx
Geiriau Robert Lopez
Jeff Marx
Llyfr Jeff Whitty
Cynhyrchiad 2003 Broadway
2005 Las Vegas
2006 West End
2007 Stockholm
2007 Helsinki
2007 Taith Gogledd America
2007 Israel
2008 Royal Tunbridge Wells
2008 Dinas Mecsico
2008 Singapôr
2009 Melbourne
2009 Brasil
2009 Cincinnati
2009 Budapest
2009 Istanbul
Gwobrau Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau
Gwobr Tony am y Llyfr Gorau
Gwobr Tony am y Sgôr Wreiddiol Orau

Sioe gerdd 2003 ydy Avenue Q a gyfansoddwyd gan Robert Lopez a Jeff Marx, ac a gyfarwyddwyd gan Jason Moore. Ysgrifennwyd y llyfr gan Jeff Whitty. Yn wreiddiol, cynhyrchwyd ac agorwyd y sioe yn Theatr y Winwydden, oddi ar Broadway ym mis Mawrth 2003. Symudodd y cynhyrchiad i Broadway ym mis Gorffennaf 2003 ac enillodd nifer o Wobrau Tony, gan gynnwys gwobr am y Sioe Gerdd Orau. Mae Avenue Q yn parhau i gael ei pherfformio ar Broadway gan wneud y sioe y 23ain sioe gerdd hiraf yn hanes Broadway. Yn 2005, aeth y sioe i Las Vegas a gwelwyd nifer o gynhyrchiadau gan gynnwys yn West End Llundain. Dechreuodd taith genedlaethol o amgylch yr Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf 2007 a daeth i ben ym mis Mai 2009.

Mae'r sioe ei hun yn drwm o dan ddylanwad (ac ar arddull) y rhaglen deledu Sesame Street. Mae'r mwyafrif o gymeriadau'n bypedau (sy'n cael eu gweithredu gan actorion ar lwyfan), ac mae'r set yn darlunio nifer o gartrefi mewn ardal difreintiedig yn un o fwrdeisdrefi allanol Dinas Efrog Newydd. Mae'r cymeriadau byw a'r pypedau i'll dau yn canu, a dangosir clipiau fideo animeiddiedig fel rhan o'r stori.

Gellir gweld yn syth fod nifer o'r cymeriadau yn barodiau o gymeriadau traddodiadol "Sesame Street"; er enghraifft, mae'r ddau gymeriad sy'n rhannu ystafell Rod a Nicky yn fersiynnau o gymeriadau Bert ac Ernie o "Sesame Street", tra bod Trekkie Monster yn seiliedig ar Cookie Monster. Serch hynny, mae'r cymeriadau yma yn eu hugeiniau a'u tridegau ac wynebant problemau oedolion, gan wneud y sioe yn fwy addas ar gyfer oedolion a fagwyd yn gwylio "Sesame Street". Roedd pedwar aelod o'r cast gwreiddiol (John Tartaglia, Stephanie D'Abruzzo, Jennifer Barnhart a Rick Lyon) wedi gweithio ar "Sesame Street" yn flaenorol.

Mae'r cymeriadau'n rhegi, ac yn canu caneuon gyda themâu sy'n addas ar gyfer oedolion. Un o themâu canolog y sioe yw dyhead y prif gymeriadau i ddod o hyd i "bwrpas" i'w fywyd. Ers i drac sain y sioe gerdd gael ei rhyddhau, mae'r gân "The Internet Is for Porn" wedi dod yn boblogaidd ar wefannau fel YouTube a gellir ei lawrlwytho'n rhad ac am ddim o'r wefan swyddogol. Yn ôl gwefan swyddogol y cynhyrchiad, mae'r sioe yn addas ar gyfer oedolion ac arddegwyr aeddfed.


Developed by StudentB